Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau Ymchwiliad i Fynediad at Fancio

Nodyn ar yr ymweliad â Chymdeithas Adeiladu'r Principality - 5 Mehefin 2019

 

Yn bresennol: Russell George AC (Cadeirydd), Hefin David AC, Vikki Howells AC, Bethan Sayed AC, Joyce Watson AC, Lara Date/Amy Knox (tîm clercio).

 

Pencadlys Cymdeithas Adeiladu'r Principality

Cyfarfod â: Steve Hughes (Prif Swyddog Gweithredol), Julie-Ann Haines (Prif Swyddog Cwsmeriaid), Tom Denman (Prif Swyddog Ariannol), David Critcher (Pennaeth Canghennau Rhanbarthol), Jamie Pike (Rheolwr Materion Corfforaethol)

Mae'r Principality yn gweithredu model cydfuddiannol sy'n atebol i'r aelodau sy'n berchen arno yn hytrach nag i gyfranddalwyr - mae ei Gyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol ymysg y mwyaf yn y DU o ran y nifer sy'n bresennol, ac mae hefyd yn cynnal 5 sesiwn siarad yn ôl ledled Cymru, gyda nifer dda yn bresennol. Mae ymrwymiad ei gwsmeriaid yn rhannol efallai oherwydd ei Gymreictod unigryw, ac am fod yr aelodau'n teimlo bod ganddynt lais.

Mae gan y Principality gronfa werth £75 miliwn ar gyfer tai cymdeithasol, mae ganddo raglen partneriaeth ag ysgolion ac mae'n gwneud gwaith cynhwysiant ariannol. Ei strategaeth ar gyfer cynyddu gwasanaethau bancio digidol yw 'sut mae dod â phethau gorau’r gangen i'r byd digidol?'

Mae sefydliadau ariannol yn gyffredinol wedi gweld gwasgfa ar eu helw, e.e. gostyngiad o 30% yn yr elw ar forgeisi yn y flwyddyn ddiwethaf - mae hyn yn gyrru pris benthyca i lawr, felly mae ffocws mawr ar ostwng y gymhareb cost:incwm, ac mae presenoldeb ar y stryd fawr yn ddrud. I fanciau, mae'n haws cyfeirio traffig at fodel digidol cost isel yn hytrach na model cangen cost uchel. Mae clustnodi bancio manwerthu a bancio buddsoddi, a ddigwyddodd yn dilyn adroddiad comisiwn Vickers, wedi cael canlyniad anfwriadol gan na all banciau bellach defnyddio croes-gymhorthdal.

Yn ei 90 diwrnod cyntaf yn y swydd ymwelodd Prif Swyddog Gweithredol y Principality â phob un o'r 71 cangen, ac mae wedi gweld effaith cau banciau, er enghraifft, yn Abergwaun lle nad oes canghennau banc ac mae adeiladwr yn defnyddio ei gyfrif cynilo Principality i dalu ei weithwyr.

Gwelwyd newidiadau mawr yn y ffordd y mae cwsmeriaid yn gwneud busnes. Wrth symud tuag at ddigidol, mae cwsmeriaid am wneud mwy yn ddigidol ar yr un pryd ag y mae sefydliadau ariannol yn hyrwyddo hynny. Mae'n golygu bod llai yn mynd i'r banc, ond nid hynny sy'n digwydd yn achos y Principality gan ei fod yn cynnig cyfrifon cynilo yn hytrach na chyfrifon banc.

Mae newidiadau ym myd technoleg ddigidol yn digwydd yn gynt ac yn gynt, ond mae arian parod o hyd, ac mae ar bobl angen ei ddefnyddio - mae canghennau'r Principality yma i aros. Mae diffyg band eang yn broblem i rai cymunedau gwledig, ac mae pobl hefyd yn gwerthfawrogi delio â phobl wyneb yn wyneb mewn cangen. Mae angen cymorth ar rai aelodau.

Mae gan 60 y cant o ganghennau'r Principality 4 aelod o staff sy'n cael eu hannog i fod yn rhan o'r gymuned leol. Y duedd yw mai demograffig hŷn yw'r cwsmeriaid sy'n cynilo - yr oedran cyfartalog yw 58 - a phobl hŷn sy'n defnyddio canghennau amlaf. Mae'r ffaith bod 500,000 o gwsmeriaid cynilo yn gymhelliant i gael canghennau.

Nid yw'r Principality yn cynnig cyfrifon cyfredol ar hyn o bryd - pan ofynnwyd iddo a oedd yn ystyried hynny, gan ei bod mewn lle da i symud i'r maes hwnnw, dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai'r gost o fynd i'r farchnad honno gyda'r dechnoleg angenrheidiol yn afresymol, a byddai'n golygu gwerthu llawer o gynhyrchion ariannol. Nid yw staff y Principality yn cael eu hannog i werthu amrywiaeth o gynhyrchion ac nid yw hynny'n iawn i'w busnes na'u haelodau ar hyn o bryd, er na ellid ei ddiystyru yn y tymor hir iawn.

Trafodwyd costau'r rhwydwaith canghennau - caiff £10 miliwn ei wario ar hyn gan mai dyna yw dymuniad yr aelodau - maent am fod wyneb yn wyneb â'r bobl maent yn ymddiried eu cynilion oes i'w gofal.

Pe bai'r Principality'n cynnig gwasanaethau bancio cyfrifon cyfredol i gwsmeriaid, byddai'n costio £3.5 miliwn oherwydd cost darparu'r gwasanaethau y mae pobl yn eu disgwyl ym maes bancio.

Trafodwyd ymrwymiad y Prif Weinidog i fodel bancio cymunedol - yr her a nodwyd gan y Principality yw dechrau o'r dechrau - ar wahân fanc Metro yn agor yng Nghaerdydd, mae banciau newydd yn ddigidol yn unig, dim canghennau. Fe'i disgrifiwyd fel “talcen caled”. “Nid mêl i gyd”, ac ni ddylid bychanu'r anawsterau o ran: cyfalaf; ecwiti; hylifedd; gwerthiant cynhyrchion; gwydnwch gweithredol; gofynion rheoleiddio; cydymffurfio â'r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol. 

O'r 71-72 o drwyddedau bancio newydd a roddwyd eleni, dim ond 10 y cant sy'n gwneud elw. Nid yw’r cwmnïau technoleg ariannol sy’n dod i mewn yn gweld eu hunain yn fanciau. Mae'n cymryd sawl blwyddyn dim ond i gael y drwydded fancio.

Mae rhedeg cangen yn costio'r Principality oddeutu £250,000 y flwyddyn, ac mae angen hyd at £800,000 ymlaen llaw i fuddsoddi'r cyfalaf ar gyfer sefydlu cangen. Roedd hefyd swyddogaethau swyddfa gefn, trysorlys a gallu rheoli risg i'w hystyried, felly gallai gostio tua £1 filiwn fesul cangen os ydych chi'n cynnwys pob cost. Ffactor arall fyddai'r hyn a gynigir - os ydych chi'n cynnig cyfrifon cynilo mae rheoliadau iawndal FSCS - mae hyn yn golygu newid sylweddol o ran goruchwyliaeth ariannol. Os ydych chi'n benthyg arian yna mae'n rhaid wrth swyddogaeth rheoli risg credyd. Mae'n cymryd 7-10 mlynedd i gangen unigol adennill costau ac mae angen denu pobl drwy'r drws a sefydlu llif y cwsmeriaid. Mae nifer y bobl sy'n dod i'r gangen yn bwysig iawn. Mae hyder yn hanfodol - a fyddai cwsmeriaid yn ymgysylltu â brand newydd?  Mae'r Principality wedi bodoli ers 159 mlynedd ac mae'n rhaid iddo fuddsoddi mewn digwyddiadau ac ati o hyd i sicrhau bod gan gwsmeriaid Cymru ffydd ynddo. Ar ôl 159 mlynedd a gyda 71 o ganghennau, mae ganddo 14-15 y cant o'r farchnad cynilion. Os mai llenwi bylchau mewn gwasanaethau yw'r nod, mae'n bwysig gofyn pam mae'r bylchau yn bodoli yn y lle cyntaf. Byddai angen datrys problemau Cymorth Gwladwriaethol, ond mae pethau i'w hystyried yno, er enghraifft y nod o greu cyfleoedd gwaith.

Gofynnodd yr Aelodau pa newidiadau i reoliadau a allai helpu? Trafodwyd addysg ariannol - mae rhywfaint o addysg mewn ysgolion yng nghyfnod allweddol 2 trwy fusnes yn y gymuned - ond nodwyd na fydd addysg ariannol yn rhan o gwricwlwm Cymru. Mae'r Principality yn ceisio pontio'r bwlch trwy gyfleu pwysigrwydd cynilo i bobl yn eu harddegau - mae pobl yn hoffi'r paslyfr a'r ddisgyblaeth o ddod i gangen i dalu i mewn, ac mae pobl yn hoffi gwneud yr ymdrech ychwanegol honno i godi arian o'u cynilion. Mae'r Principality hefyd yn cyflwyno cynnyrch newydd sy'n cysylltu cynilion rhieni a phlant ac yn eu hannog i gynilo mwy.

Mae rheoleiddio yn y diwydiant yn ymwneud â rheoli risg systemig - y flaenoriaeth i'r banciau sydd gyda'r 5-6 uchaf yw sicrhau bod y system fancio yn gweithio.

Gofynnodd yr Aelodau beth ddylai rôl Llywodraeth Cymru fod o ran cynnal mynediad at fancio? I Brif Swyddog Gweithredol y Principality, rôl y Llywodraeth o ran polisi yw sicrhau rhwyddineb gwneud busnes a chefnogi buddsoddiad mewn seilwaith. Cyfeiriodd at waith ar yr agenda tai ac addysg i bobl ifanc. Roedd yn ymwneud â chael y partneriaethau cywir. Model partneriaeth yw'r ffordd ymlaen, a sicrhau nad yw cymunedau'n teimlo'n unig ac yn ddiymgeledd.

Un mater allweddol i Gymru yw mynediad at dechnoleg ac WiFi - mae polisi ar fand eang a chysylltedd symudol yn wirioneddol bwysig, a bydd yn fwy felly.

Roedd mynediad at arian parod a'r ddadl am beiriannau ATM hefyd yn bwysig. Mae gan y Principality 12 peiriant ATM a byddai'n ystyried a fydd modd ehangu'r rhwydwaith a chael rhagor - ni fyddai'n bosibl yn ffisegol mewn rhai o'r canghennau llai. Roedd hefyd yn ystyried darparu peiriant ATM mewn lleoliadau lle nad oes ond un gangen banc.

Roedd gan yr Aelodau ddiddordeb yn y model asiantaeth, lle mae gan y Principality bresenoldeb mewn partneriaeth â busnes arall fel asiantaeth tai neu arwerthwr, gan lenwi bwlch mewn ardal benodol. Fodd bynnag, ni all asiantaethau gynnig yr un ystod o wasanaethau â changen. Bydd y Principality yn rhoi mwy o wybodaeth am ei fodel asiantaeth a'r hyn y gall ei wneud na all un o ganghennau Swyddfa'r Post ei wneud.

 

---